Hanes Castell Llansteffan

Saif Castell Llansteffan mewn lleoliad ysblennydd, yn goron ar bentir trawiadol sy’n edrych dros dywod gwastad aber Afon Tywi. Atgyfnerthwyd y safle pen bryn am y tro cyntaf yn yr Oes Haearn gynhanesyddol, ac erbyn y chweched ganrif CC, taflwyd ffos a muriau dwbl o amgylch y pentir i greu caer bentir amddiffynnol. Nid yw’n syndod, felly, fod y Normaniaid hefyd wedi sylweddoli potensial y safle yn amddiffynfa.
Credir i’r castell gael ei godi gan y Normaniaid yn fuan ar ôl 1100. Bryd hynny, roedd y castell a godwyd yn amddiffynfa gylch gynhanesyddol. Cyfeirir yn benodol at Lansteffan am y tro cyntaf ym 1146. Yn y flwyddyn honno, yn ôl Brut y Tywysogion, cipiwyd y castell gan Maredudd ap Gruffudd a’i frodyr, Cadell a Rhys, tywysogion ifanc y Deheubarth (de-orllewin Cymru). Fodd bynnag erbyn 1158, cafodd yr ardal ei hailfeddiannu gan y Normaniaid, ac ar y cyfan ’roedd y castell yn nwylo’r Saeson wedi hynny.
O ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, rheolwyd Llansteffan gan William de Camville a’i ddisgynyddion. Hanes cythryblus fu i’r castell yn ystod y cyfnod dilynol; fe’i cipiwyd droeon gan y Cymry a’i gipio eto gan y Saeson.
Daeth llinach wrywaidd y teulu Camville i ben pan fu farw William III ym 1338, a thrwy briodas, daeth Llansteffan i ddwylo teulu’r Penres o Benrhyn Gŵyr. Daeth y castell ’nôl i ddwylo’r Cymry am gyfnod byr yn ystod cyfnod cythryblus gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Y Goron oedd yn rheoli Llansteffan yn bennaf am y ddwy ganrif ddilynol, er bod rheolaeth y castell yn cael ei hildio o dro i dro. Ar ddiwedd y bymthegfed ganrif rhoddodd Harri VII (1485 - 1509) y castell i’w ewythr, Siaspar Tudur (m. 1495) ac mae’n bosibl mai yn y cyfnod hwn y gwnaed addasiadau i borthdy’r castell.
Caewyd llwybr y porthdy er mwyn creu lle ar gyfer llety ychwanegol, ac adeiladwyd mynedfa syml gerllaw.
Ym 1959 gwnaed cytundeb gwarchodaeth gyda’r Ministry of Works/ Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, tra bod y castell yn aros ym mherchnogaeth breifat Ystad y Plas.
Yn 2016 daethom ni yn berchnogion balch Castell Llansteffan a Fferm y Plas ... a dechreuwyd ar bennod newydd yn hanes y Castell.
Gellir cyrraedd y bryn ar droed yn unig. Mae llwybr yn arwain at ben y pentir lle gellir gweld golygfeydd ysblennydd o’r aber a’r wlad o’ch amgylch ar ôl dringo i’r copa. Ar ddiwedd y llwybr, cyn mynd i mewn i’r castell, mae nifer o nodweddion allanol i’w gweld. Yn y cae i’r gorllewin (sydd mewn dwylo preifat) gellir gweld bryncyn a ffos allanol amddiffynnol y castell canoloesol, ac ymhellach i’r gorllewin mae bryncynnau a ffosydd llai sy’n dyddio’n ôl i gaer bentir yr Oes Haearn. Gellir gweld y rhain hefyd o ben tŵr y porthdy.
Mae hanes llawn a disgrifiad o’r castell a’r safle ar gael yn llyfryn Castell Llansteffan (Cadw, Llywodraeth Cymru). Gellir ei brynu yn siop y pentref neu yn y caffi ger y traeth.
envelopeuserchevron-downarrow-down