• Castell Llansteffan

    .....dechrau hudolus i’ch bywyd priodasol

  • Castell Llansteffan

    .....dechrau hudolus i’ch bywyd priodasol

  • Castell Llansteffan

    .....dechrau hudolus i’ch bywyd priodasol

  • Castell Llansteffan

    .....where ‘Happily ever after’ begins.

Priodasau Castell Llansteffan

Castell Llansteffan yw’r lleoliad perffaith ar gyfer priodas ramantus. Byddwch yn gwneud eich addunedau â golygfeydd godidog o’r môr a’r arfordir trawiadol yn y cefndir. Yn un o’r unig gestyll sydd â thrwydded priodasau, mae Castell Llansteffan yn falch iawn o fod wedi ennill tystysgrif ragoriaeth Trip Advisor, wedi cyrraedd y 10% uchaf o ran cyrchfannau byd-eang, ac fe’i pleidleisiwyd yn un o leoliadau mwyaf rhamantus y genedl. Dyma’r lleoliad perffaith i chi ’sgwennu pennod nesaf eich stori ramant gyda’ch gilydd.

Gwasanaeth personol i chi

Bydd ein tîm digwyddiadau arbennig yn helpu i wireddu eich breuddwydion. Dan arweiniad Beth, steilydd a threfnydd priodasau sydd wedi ennill gwobrau, mae gan y tîm ddiddordeb angerddol mewn trefnu digwyddiadau o ansawdd, ac mae ganddynt lygaid craff am fanylion. Mae priodasau Castell Llansteffan yn cael eu trefnu’n bersonol ac yn benodol ar eich cyfer i weddu eich anghenion. Fe’n cefnogir gan gyflenwyr gorau’r rhanbarth, a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r rhai sy’n cyd-fynd â’ch gweledigaeth yn y ffordd orau bosibl. Rydym yn mynd ymhell uwchlaw’r disgwyl wrth gynllunio’r digwyddiad gyda chi, a byddwn yn rhedeg y sioe ar eich diwrnod mawr; y cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd ymlacio a mwynhau.
Wrth iddynt ddisgwyl amdanoch, gall eich gwesteion fwynhau aperitif yn y goedwig sy’n arwain i fyny at y Castell. Efallai y byddwch am ddewis siampên clasurol, neu efallai mai jin arbenigol sy’n torri’ch syched. Beth bynnag eich dewis, byddwn yn sicrhau ein bod yn creu naws sy’n eich gweddu chi i’r dim. P’un ai y byddwch yn cyrraedd mewn hen gar clasurol, yn gain a chynnil, neu’n gwbl drawiadol mewn hofrennydd preifat, fe awn â chi i’r castell mewn steil, i sicrhau y bydd yr eiliad y byddwch yn camu i mewn i’r Castell yn un hudolus a bythgofiadwy.

Y dechrau perffaith i’ch diwrnod perffaith…

Y Seremoni

Bydd eich seremoni briodas ramantus, ‘agos atoch chi’ yn cael ei chynnal o fewn waliau tawel ein castell mawreddog. Ac iddo naw can mlynedd o hanes, mae’r castell wedi goresgyn nifer o frwydrau tywysogion Cymru a stormydd ein harfordir epig – dyma leoliad perffaith i uniad a fydd yn para am byth.
Wedi'i deilwra i'ch steil unigol chi, os hoffech i ni helpu i drefnu eich derbyniad hefyd, byddem yn hapus i’ch cynorthwyo. Gallai hyn fod mor chwaethus neu mor anffurfiol ag yr hoffech iddo fod. P'un a yw'n bicnic cartrefol o dan yr heulwen yn y Castell, neu'n ddigwyddiad mwy ffurfiol yn un o'r lleoliadau lleol gwych, mae ein tîm yn deall mai'r manylion ychwanegol, lleiaf oll fydd yn gwneud eich diwrnod yn berffaith. Dyma pam y byddwn yn mynd y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr fod pob dim wedi ei drefnu - gallwn hyd yn oed drefnu eich ffafrau priodas, a chlo cariad hardd ac unigryw Castell Llansteffan yn rhywbeth i’w gadw, i gofio am eich diwrnod arbennig.

Y Derbyniad

Penwythnos i’w gofio

Beth am wneud y gorau o'n cefn gwlad gogoneddus a'n harfordir trawiadol yn Sir Gâr drwy ymestyn eich dathliadau dros y penwythnos? Mae gan ein llety ar Ffermdy mawr cyfagos olygfeydd godidog o’r aber, ac mae’n cysgu deg o bobl. Cyn hir byddwn hefyd yn cyhoeddi llu o brofiadau ychwanegol, gan gynnwys blasu wisgi a fforio ar yr arfordir.
envelopeusermenuchevron-downarrow-down