Rheolau’r Castell a Gwybodaeth

TÂL MYNEDIAD

Ar hyn o bryd, mae’r mynediad i’r castell am ddim (oni bai fod digwyddiad arbennig yno)
OEDOLYN
Am ddim
TEULU
Am ddim
PENSIYNWYR
Am ddim
ANABL A CHYDYMAITH
Am ddim

AMSERAU AGOR

Dyddiad/ Amser
Bob dydd 10.00am - 4.00pm
Mynediad olaf: 3:30pm
Ar Gau
24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

HYGYRCHEDD

Mae mynediad am ddim i ymwelwyr anabl a’u cydymaith.
Mae maes parcio cyhoeddus o fewn 800 medr i’r castell (tua 75 lle) sydd ar lan yr aber.
Ni chaniateir parcio ger y castell.
Llwybr cyhoeddus, ffordd breifat a lôn sy’n arwain at y castell. Mae’r rhain yn serth ac yn anwastad mewn mannau. Mynediad i gerddwyr yn unig.
Ni chaniateir cerbydau.
Mae lawnt y tu mewn i’r castell, ond mae’n serth mewn sawl man. Rhaid cymryd gofal wrth fynd i lefelau uchaf y prif borthdy.
Nid oes mynediad i’r cyhoedd i waith tir yr Oes Haearn nac i’r goedwig ar waelod y castell.

RHEOLAU’R CASTELL

Cofiwch fod Castell Llansteffan a’r tir o’i amgylch mewn perchnogaeth breifat. Gofynnwn yn garedig i chi ein helpu i ddiogelu ei harddwch a chadw at y canlynol wrth ymweld:
Peidiwch â gadael sbwriel yn y Castell.
Rhaid i blant o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn a rhaid clirio eu baw o’r safle.
Ni chaniateir ysmygu yn y Castell.
Ni chaniateir hedfan drôn yng Nghastell Llansteffan neu yn unrhyw un o safleoedd gwarchodaeth Cadw, ar wahân i gontractwyr wedi’u comisiynu at bwrpas arbennig. Mae’n rhaid cael caniatâd a dilyn rheolau llym CAA gan gynnwys cael yr yswiriant priodol. Dim ond partïon sydd wedi cael caniatâd ac sy’n gweithredu o dan amodau rheoledig a ganiateir.
Ni chaniateir ffotograffiaeth broffesiynol e.e. lluniau priodas ac ati heb drefniant a chaniatâd ymlaen llaw.
Am wybodaeth bellach cysyltwch â [email protected]
envelopeuserchevron-downarrow-down