Saif Castell Llansteffan mewn lleoliad ysblennydd, yn goron ar bentir trawiadol sy’n edrych dros dywod gwastad aber Afon Tywi. Atgyfnerthwyd y safle pen bryn am y tro cyntaf yn yr Oes Haearn gynhanesyddol, ac erbyn y chweched ganrif CC, taflwyd ffos a muriau dwbl o amgylch y pentir i greu caer bentir amddiffynnol. Nid yw’n syndod, felly, fod y Normaniaid hefyd wedi sylweddoli potensial y safle yn amddiffynfa.
Credir i’r castell gael ei godi gan y Normaniaid yn fuan ar ôl 1100. Bryd hynny, roedd y castell a godwyd yn amddiffynfa gylch gynhanesyddol. Cyfeirir yn benodol at Lansteffan am y tro cyntaf ym 1146. Yn y flwyddyn honno, yn ôl Brut y Tywysogion, cipiwyd y castell gan Maredudd ap Gruffudd a’i frodyr, Cadell a Rhys, tywysogion ifanc y Deheubarth (de-orllewin Cymru). Fodd bynnag erbyn 1158, cafodd yr ardal ei hailfeddiannu gan y Normaniaid, ac ar y cyfan ’roedd y castell yn nwylo’r Saeson wedi hynny.....
more