Digwyddiadau yng Nghastell Llansteffan

MAE CASTELL LLANSTEFFAN A’R GOEDWIG AR GAEL I’W LLOGI
Am wybodaeth berthnasol, gan gynnwys manylion am y safle, trefniadau parcio, cyfleusterau a mynediad, ymholwch drwy gysylltu â  [email protected]
Er mwyn cadarnhau dyddiad y digwyddiad bydd angen cwblhau ffurflen gais a anfonir atoch. Bydd yn rhaid i’r ffurflen cael ei chwblhau o leiaf 28 diwrnod cyn y digwyddiad, i roi amser i ni ystyried a thrafod y trefniadau gyda chi.
Er mwyn llogi’r castell mae angen i ni sicrhau bod Cadw yn hapus gyda’r trefniadau arfaethedig. Mae amddiffyn yr adeilad hynafol a’r safle yn holl bwysig.
Codir tâl ar gyfer llogi’r safleoedd, holwch am brisiau.
Nodwch bod angen i chi gwblhau asesiad risg os derbynnir eich cais. Mae angen Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a chyflwyno copi o’r dystysgrif yswiriant. Mae’r broses yn rhwydd ac rydym ar gael i fod o gymorth.
Anfonir cytundeb safle i chi fel rhan o’r broses gais.
envelopeuserchevron-downarrow-down